Roedd Stryd Womanby – sy’n gartref i leoliad miwsig eiconig Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd – yn un o hanner cant a mwy o lefydd gafodd eu goleuo yn goch yng Nghymru ar noson olaf mis Medi.

Y bwriad oedd tanlinellu’r ffaith bod gweithwyr y diwydiant adloniant yn wynebu argyfwng oherwydd Covid-19, a lleoliadau mewn perygl o orfod cau heb gymorth ariannol.

Ar yr un noson roedd lleoliadau tebyg wedi eu goleuo yn goch yn Awstralia, Brasil, Canada, Hong Kong, yr Almaen a Thwrci.