Wrth gwrs fod y cynnwys yn bwysig, ond mae gwerth symbolaidd Adroddiad Comisiwn Annibyniaeth Plaid Cymru yn llawer mwy na hynny.

I ddechrau, mae’n amlwg yn ymgais i osod y drafodaeth am annibyniaeth ar dir o ddifri, yn hytrach na rhethreg emosiynol. Mae hefyd yn ymgais i sicrhau mai’r Blaid sy’n arwain y drafodaeth, yn hytrach na chael ei thynnu gan eraill.