Aeth y Gweinidog Addysg i Aberystwyth i dorri rhuban coch i nodi bod neuadd breswyl Gymraeg Pantycelyn ar agor eto, ar ôl gwario gwario £16.5 miliwn arni.
Daeth yr adeilad yn Neuadd Gymraeg yn 1974 a bu sôn ers 2008 am ei chau oherwydd ei bod mewn cyflwr gwael.
Ond yn dilyn protestio mi benderfynodd y Brifysgol ei hadnewyddu, gan osod cyfleusterau modern fel cawodydd ac en suites ym mhob stafell.