Ochr yn ochr â Brexit a Covid, mae gan Gymru frwydr arall… achub datganoli. Mae Llafur a Phlaid Cymru yn erbyn ymgais Llywodraeth San Steffan i gipio grym oddi ar y Senedd…
“Mae yna ymosodiad ar ddau ddegawd o ddatganoli. Mae Mesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig wedi ei gynllunio i ddiweddu datganoli fel y mae ac aildrefnu canoli grym i ddwylo 10 Downing Street. Bydd yr effaith cyfun yn golygu’r ail-ganoli mwya’ o rym mewn unrhyw wladwriaeth Ewropeaidd ers yr Ail Ryfel Byd.
Mesur y Farchnad Fewnol fydd y grym a’r dull o gyflawni hyn. Bydd yn canoli grym yn nwylo gweinidogion llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda chraffu seneddol cyfyngedig ac yn rhoi iddyn nhw’r grym i fynd dros ben Llywodraeth Cymru. Bydd yn creu bylchau anferth yn Neddfau Cymru a’r refferendwm a sefydlodd ddatganoli.” (Mick Antoniw, AoS, cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru ar labourlist.org)
Ond mewn erthygl arall ar nation.cymru, roedd yr un gwleidydd Llafur yn cyhuddo Plaid Cymru o ymgyrchu tros annibyniaeth a’u safbwynt eu hunain, yn hytrach nag ymuno gyda Llafur yn y frwydr.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, Llafur Cymru oedd wedi agor y drws i roi’r cyfle i Lundain wneud hyn… ond mae’n cytuno am yr effaith…
“Bydd yn rhoi fito i’r Torïaid tros gynigion y Senedd i warchod ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhag preifateiddio trwy gytundebau masnach niweidiol. Bydd yn golygu bod Cymru’n ddiymadferth i atal cig iâr wedi’i glorineiddio rhag llenwi ein harchfarchnadoedd, os caiff y Torïaid y fargen y maen nhw mor awyddus i’w chael gydag America Trump. Bydd yn caniatáu i Dominic Cummings ochrgamu ein Senedd ddemocrataidd gyda pha bynnag syniad gwallgo’ y mae am ei orfodi ar Gymru, pa un ai a fyddwn ni ei eisiau ai peidio.” (nation.cymru)
Ond mae Theo Davies-Lewis yn gweld gobaith… y gallai’r Mesur wthio rhai ‘Brits’ traddodiadol i gornel annibyniaeth…
“Mae’n arbennig o addas fod yr erthyl yma o Fesur yn cael ei drafod yr wythnos hon, chwe blynedd wedi i’r Alban bleidleisio i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig… mae ReffAnnibyn2, a oedd yn ymddangos yn debygrwydd gwleidyddol amghosib wedi i’r cenedlaetholwyr golli… nawr yn ymddangos yn debygol yn y degawd yma. I’r gwrthwyneb, mae deffroad Cymru wedi bod yn fwy sydyn ac, efallai, yn ddyfnach. Mae chwe mis – chwe diwrnod hyd yn oed – wedi newid y berthynas rhwng ‘Brits da’ traddodiadol a’r Deyrnas Unedig.” (nation.cymru)
Pa blaid fydd yn arwain y frwydr. Mae’r pôl profi’r-tywydd diweddara’ yn awgrymu ras tair ffordd rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru gyda dim ond 10 pwynt rhwng y tair yn y Bae…
“Mae’n ymddangos bod mantais Llafur wedi ymestyn ychydig, mae Plaid Cymru mewn trydydd safle cry’ ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael cweir… dyma’r sgôr gwaetha’ mewn pôl piniwn i Ddem Rhydd Cymru ei gael erioed…” (Roger Awan-Scully)