Er taw bachgen ysgol oeddwn i adeg Refferendwm Datganoli 1979, mae’r siom o’i golli yn fyw iawn yn y cof.

Ac anghofia’ i fyth y torcalon wrth fynd i’r gwely ar y noson dyngedfennol honno yn 1997, yn credu bod Cymru wedi bod yn rhy lywaeth unwaith eto i bleidleisio mewn ail refferendwm dros y mymryn lleiaf o ddatganoli.