Roedd amryw, siŵr o fod, yn credu mai gor-ddweud yr oedd pobol wrth godi ofn am ddyfodol democratiaeth yn yr Unol Daleithiau.

Mi fydd y dyddiau diwetha’ wedi gwneud digon, siawns, i argyhoeddi pawb nad nonsens llwyr ydi siarad o’r fath.

Y rheswm amlwg ydi’r trais ar strydoedd un ddinas ar ôl y llall yn sgil ymosodiad arall gan yr heddlu ar ddyn croenddu ac ymateb ymfflamychol yr Arlywydd, Donald Trump.