O’r holl fideos gafodd eu rhannu ar Twitter yr wythnos ddiwethaf, roedd un yn neilltuol o arswydus.

Fideo o rai o aelodau mudiad hynod hynod annymunol ‘Britain First’ oedd hwnnw, yn eu dangos yn mynd o ddrws i ddrws mewn gwesty yn Warrington, yn hela ffoaduriaid.

Eu nod, meddai’r giwed o ‘Britain First’, oedd siarad â rhai o’r “mudwyr anghyfreithlon” oedd yn aros yn y gwesty.