Blas o’r bröydd

Mae Bro360 yn cydweithio â chymunedau yn Arfon a Cheredigion i gynnal saith o wefannau bro – y lle ar y We i’r lleisiau lleol. Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, dros yr wythnos ddiwethaf…

***

Addasu i’r ‘normal newydd’ yn Poblado Coffi

 “Ar gychwyn mis Mehefin, pan oedd golau i’w weld ar ddiwedd twnal y clo mawr, gafo ni sgwrs yma yn Poblado Coffi i gymeryd stoc a chynllunio ymlaen.”

Felly sut mae’r cwmni coffi yma yn Nyffryn Nantlle wedi addasu? O ble ddaeth yr enw? A beth yn y byd yw ‘Plodwyr Poblado’? Darllenwch stori’r busnes lleol ar DyffrynNantlle360.

***

Llaeth lleol o’r fuwch i’r ford frecwast

 “O’n i’n meddwl bydden i byth yn prynu horsebox!” meddai Dafydd Jones, Llanfair Fach ger Llanbed. Ond mae e’ newydd wneud, ac nid ar gyfer cadw ceffylau! Mae’r teulu newydd sefydlu busnes i werthu llaeth y fferm o gwmpas y fro mewn trelar. Yn yr un ardal, mae teulu Gwarffynnon yn mentro i’r maes ac ar fin agor siop yn gwerthu llaeth ffres y fferm yn Llanbed.

Y ffermwr ifanc lleol, Cennydd Jones, sy’n holi’r ddau mewn podcast arbennig ar dwf cynnyrch lleol ar Clonc360.

 ***

 Podlediad pêl-droed

 Mwynhewch y cyfle yma i wrando ar un o ohebwyr ifanc BroAber360, Gruffudd Huw, yn sgwrsio gyda Gwynfor Jones am rai o gemau mwyaf cofiadwy tîm pêl-droed Cymru. Mae Gwynfor wedi gwylio dros 150 o gemau Cymru ac wedi ysgrifennu dwy gyfrol ar hanes pêl-droed yng Nghymru. Pwy well i hel atgofion?

***

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Addasu i’r normal newydd yn Poblado Coffi. gan Sion Hywyn Griffiths ar DyffrynNantlle360
  2. Gemau Cofiadwy gan Gruffudd Huw ar BroAber360
  3. Llwyddiant mawr helfa drysor pentref Silian gan Nikki Vousden ar Clonc360