Ydy’r rhod yn dechrau troi i Ganghellor slic Llywodraeth Prydain?

Rhwng ei gynllun ffyrlo a’r busnes ‘bwyta allan i helpu allan’, mae ‘Dishi’ Rishi Sunak wedi bod bron mor boblogaidd â llethrau’r Wyddfa tros yr wythnosau diwethaf…

Daeth y cynllun ‘bwyta allan…’ i ben ddechrau’r wythnos, gyda pherchnogion bwytai yn bla ar y cyfrynga’ yn brolio gymaint o hwb oedd gallu cynnig gostyngiad o hyd at £10 ar bryd o fwyd ar ddyddiau Llun, Mawrth a Mercher.