Mae Cymro wedi sgrifennu llyfr am achos ysbïo rhyfeddol yn 1938 wnaeth berswadio America i ymuno gyda Phrydain er mwyn trechu’r Natsïaid…

Er iddo dreulio dros hanner canrif yn yr Alban, yn Athro Hanes ym Mhrifysgol Caeredin, mae Rhodri Jeffreys-Jones yn dal i gyfrif ei hun yn un o ŵyr Harlech.

Dyma’r ardal lle y cafodd ei fagu a’i addysgu, yn fab i ysgolhaig oedd yn bennaeth Coleg Harlech, yn y 1950au.