Tros yr Haf mae Gweinidog Addysg Cymru wedi rhoi addewid bod arian grant ar gael i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Merthyr Tudful.

Mewn ymateb i gwestiwn gan Delyth Jewell AS Plaid Cymru mewn cyfarfod rhithiol o’r Senedd ym mis Gorffennaf, cadarnhaodd Kirsty Williams fod grant ar gael.

Ac mae Delyth Jewell, sy’n un o Aelodau’r Senedd tros ardal Dwyrain De Cymru, yn falch o’r ymrwymiad.

Delyth Jewell

“Mae’r grant o £1.83 miliwn i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym Merthyr Tudful ac fe fydd rhan ohono yn ariannu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gyda lle i 210 o ddisgyblion,” meddai.

Gan ganmol y berthynas waith rhwng ymgyrchwyr lleol a’r cyngor sir, ychwanegodd Delyth Jewell: “Maen nhw i gyd wedi gweithio mor galed am hyn. Fe fydd yn hwb mawr i dwf yr iaith yn ardal Merthyr Tudful ac rwy’n gyffrous iawn amdano fe. Mae yna ymgyrchwyr brwdfrydig iawn yn lleol.”

Un ohonynt yw Mark Ward sy’n Gadeirydd cangen Merthyr o’r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg. Ac er nad yw’n siaradwr Cymraeg ei hun, mae ei wraig a’i blant yn rhugl ac mae e’n awyddus i eraill gael y cyfleoedd na chafodd ef.

“Mi gefais i addysg gynradd ac uwchradd yn Saesneg,” eglura Mark Ward, “ond diolch byth mae pethau i’w gweld yn troi rownd.

“Mae’r ddwy ysgol gynradd Gymraeg sydd gynnon ni yn y fwrdeistref yn llawn i’r ymylon [Ysgol Santes Tudful ac Ysgol Rhyd y Grug] ac mae cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg yn yr ardal.”

Felly beth sy’n annog rhiant fel Mark Ward – sydd ddim yn rhugl yn yr iaith ei hun – i frwydro dros ragor o addysg Gymraeg yn ei ardal enedigol?

“Cyfleon gwaith yn un peth – dw i’n credu ei bod hi’n fantais gallu siarad Cymraeg os ydach chi am gael gyrfa a byw yng Nghymru. Ac o ran ein hetifeddiaeth ac o safbwynt hanesyddol hefyd. Fe fyddai yn drueni os byddai’r iaith yn marw allan neu os byddai llai yn ei defnyddio hi.”

Y gobaith yw y bydd yr ysgol newydd ar agor i’r plant lleiaf ym mis Medi 2021 ac yn tyfu fesul blwyddyn, wrth i fwy a mwy o ddisgyblion gychwyn ar eu haddysg am y tro cyntaf, eglura Mark Ward.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fod

cynlluniau i agor trydedd ysgol cyfrwng Gymraeg yng ngogledd y sir.

“Fe fydd y safle terfynol yn dibynnu ar adolygiadau dichonoldeb, ond y bwriad yw tyfu’r ysgol o’r Feithrinfa dros y blynyddoedd i ddod.”