Yn ystod y cyfnod clo mae nifer o bobl wedi bod yn ail-asesu eu bywydau a gofyn cwestiynau dyrys am sut fath o fywyd maen nhw am ei fyw yn y dyfodol.

Un sydd wedi gweld mwy o alw am ei gwasanaeth mentora merched yn ddiweddar yw Catrin Atkins sy’n byw yng Nghaerffili…

Dim ond drwy hap y dechreuodd Catrin Atkins fentora merched tua deunaw mis yn ôl, a hynny ochr yn ochr â’i gwaith yn helpu busnes creu meddalwedd ei gŵr.