Rwy’n cofio flynyddoedd yn ôl pan o’n i’n byw yng Nghaerdydd, fe wedodd ffrind wrtha’ i fod yna dŷ yn ei hewl, oedd heb ei gofnodi ar unrhyw fap. Fe allech chi fyw mewn stryd â chant o dai, er engrhaifft, ag ond 99 wedi eu cofnodi. Ma’n bosib mai camgymeriad gan ryw glerc diog oedd hynny. Ond yn yr achos yma, mi oedd e’n un o nifer o dai i Winston Churchill gael dianc iddynt, petai rhaid iddo adael Llundain yn ystod y rhyfel. Does dim tystiolaeth ei fod e wedi bod yn unrhyw un ohonyn nhw, ond we