A dyma ni. Wythnos newydd a thon newydd o reolau difyr i’n drysu ni.  Penderfynodd Boris ei fod am i ni ganolbwyntio ar ddau beth penodol. Pŵ-pŵio gwyliau Prydeinwyr yn Sbaen a mynnu ein bod ni oll yn dechrau seiclo. Llai o bitsa mwy o bedlo. S’dim byd yn fwy sicr o weindio fi fyny na gwleidydd canol oed dosbarth canol uwch yn dweud wrtha i fod e eisiau i fi golli pwysau.