Mae rhai grwpiau’r Sîn Roc Gymraeg yn teimlo “nad ydyn nhw’n gerddorion ar hyn o bryd”, yn ôl un rheolwr label annibynnol Cymraeg.

Yn y sgwrs ‘Labeli: Creu yn Cofid’ dan faner AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol, bu tri rheolwr labeli pop Cymraeg – Mei Gwynedd (Jigcal), Gruff Owen (Libertino) a Branwen Haf Williams (I KA Ching) – yn sgwrsio am effaith y cyfnod clo ar gerddoriaeth newydd gydag Alun Llwyd, sefydlydd AMAM ac Ankst gynt.