Nid problem y feirws ydi’r trafferthion parcio yn Eryri ac nid problem i Eryri’n unig chwaith. Yn y diwedd, mae’n ymwneud â’r berthynas tymor hir rhwng ymwelwyr a’r cymunedau sy’n eu croesawu nhw/gorfod eu croesawu nhw.

Yn unol â’r drefn newydd, mae’r pandemig a’r ymdrechion i’w atal yn cryfhau tueddiadau sy’n bod yn barod gan roi min ar y tensiynau sy’n gyson o dan yr wyneb.