Flynyddoedd yn ôl pan oedd bywyd yn fwy syml, mi oedd cynnwys rhaglenni newyddion yn dipyn ’sgafnach eu naws nag y’n nhw heddi.

Mi oedd y newyddion Cymraeg yn cydnabod yr angen i godi calon y genedl ag ambell eitem ogleisiol, ‘rib-ticklers’, i roi gwen ar wyneb.

I’r perwyl yna, fe fydden nhw’n danfon gohebwyr ’tebol i ddarganfod straeon ‘ac yn ola…’ fel bod y gwylwyr yn teimlo, er gwaetha popeth, fod yna olau ar ddiwedd y twnnel.