Mae’r Adolygiad o Strategaeth Plismona yng Nghymru a Lloegr, fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis, yn cryfhau’r achos dros ddatganoli’r cyfrifoldeb tros heddluoedd Cymru.

Dyna farn bersonol Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, sy’n rhoi blas i ddarllenwyr Golwg o gynnwys adroddiad blynyddol arolygwyr yr heddlu.