Mae rhai o wirfoddolwyr Plaid Brexit wedi cefnu arni yn dilyn newid i’w pholisi ar ddatganoli.

Dros y penwythnos dywedodd yr arweinydd, Mark Reckless, wrth y BBC bod y byddai Plaid Brexit yn sefyll tros ddiddymu’r Senedd yn etholiad 2021.

Mewn ymateb, mae gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am rai o gyfrifon Facebook y blaid wedi cefnu arni.

Dyma’r gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am gyfrifon Facebook Plaid Brexit Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Castell-nedd a Phort Talbot.