Am wn i fod delio efo’r economi rŵan rhywbeth yn debyg i ddelio efo feirws Corona mewn achosion difrifol.

Ryden ni wedi gweld sawl eitem deledu yn dangos pobol sydd wedi bod trwy felin yr afiechyd a dod trwyddi hefyd.

Yn y rhan fwya’ o achosion, maen nhw wedi cael wythnosau o fod ar beiriannau anadlu ac yn anymwybodol, cyn cael eu gwthio allan o’r wardiau brys rhwng rhengoedd o staff yr ysbyty’n cymeradwyo’n frwd.