Dychwelodd ddyddiau Sul.

Y smwddio yn y bore, a’r radio’n canu emynau. Plicio tatws a moron yn barod, a gadael y cig i goginio ar wres isel yn y ffwrn wrth wisgo ‘nillad gorau. Ymlwybro i’r capel mewn ’sgidiau a aroglai fel polish.