Amser a ddengys a yw Llywodraeth Prydain wedi gwario £½ biliwn o arian cyhoeddus ar y dechnoleg gofod anghywir, am eu bod wedi colli mynediad at system fordwyo [navigation] lloerenau byd-eang Galileo sy’n perthyn i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae sawl cyhoeddiad wedi ail-bobi pennawd bras diweddar ym mhapur newydd y Guardian yn dyfynnu’r arbenigwr Bleddyn Bowen yn dweud: “We’ve bought the wrong satellites”.