Och a gwae! Mae Dewi yn ôl!

Wedi ymgyfarwyddo â’r pleser o gael fy nhŷ yn ôl yn nwylo creaduriaid deugoes, neu deulaw dylwn ddweud, mae’r dieflig Dewi yn ôl yn y tŷ.  Nid dychwelyd o’i wirfodd a wnaeth y gath, ond cael ei ‘achub’ gan ‘ffrindiau’. Wel, mi oedden nhw’n ffrindiau. Dw i ’di croesi nhw bant o’r rhestr cardiau Nadolig yn barod, ac mae hi ond yn Orffennaf!

Wedi wythnos gyfan ar saffari, fe roddodd ffrind neges ar Facebook i ddweud fod e’ ar goll.