Mae rhywun doethach o lawer na fi wedi disgrifio llywodraeth bresennol y Deyrnas Honedig Unedig fel adran farchnata neu beiriant propaganda, yn hytrach na llywodraeth go-iawn.
Does gen i ddim cof pwy ddywedodd hyn, ond mae e neu hi yn gywir, wrth gwrs.
Mae Boris Johnson a’i griw – ymhell cyn iddo gael ei wneud yn Brif Weinidog, a byth ers dyddiau’r ymgyrchu dros Brexit – wedi ein bombardio gyda sloganau propaganda byr a bachog.