Fe dreuliais gyfnod o fy mywyd yn rhedeg.

Roedd yn beth braf i’w wneud, bryd hynny. Cadw’n heini; rhedeg gyda ffrindiau; teimlo’n ffit; gwthio fy hun i fynd yn gynt ac ymhellach.

Pinacl y cyfan oedd Marathon Caerdydd yn 1983. Fi oedd y 3,456fed person i orffen y ras –  o tua 4,000 o bobl. Dwi ddim yn cofio rhyw lawer am y dydd – heblaw’r poenau cyson ym mhob rhan o fy nghorff.