“Pan ddechreuodd y coronafeirws, ro’n i yn poeni am y busnes,” meddai Hayley Jones sy’n creu gemwaith yn ei chartref yng Nghaerffili.

“Ond, os rhywbeth, dw i wedi bod yn fwy prysur nag o’n i cyn hyn. Dw i’n credu bod hynny yn rhannol am fod cymaint o bobl wedi bod adref ac yn siopa mwy ar-lein.”

Yn gwerthu ei gwaith tros y We, mae’r dylunydd wedi mwynhau un o’r cyfnodau prysuraf erioed ers iddi sefydlu ei busnes gemwaith, Spells of Love, dair blynedd yn ôl.