Sut mae hogan o Stiniog wedi dod i wneud gwaith mor glam yn Llundain?!

Wnes i ddechrau drwy fynd am brofiad gwaith ar bapurau lleol cyn coleg – gwneud cyfweliadau i Theatr Harlech a ballu.

A tra’r oeddwn i’n astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, fyswn i’n mynd ar brofiad gwaith i wahanol lefydd – methu wythnos o coleg er mwyn mynd ar internship yn Llundain, cysgu ar soffa. Ti’n gorfod gwneud o.