Mae Dewi, ein cath ‘Corona’, wedi mynd. Dy’n ni ddim yn gwybod i ble. Ond cyn gynted ag y llaciodd Mark Drakeford y rheol pum milltir, a chaniatáu i ni ymweld ag anwyliaid y tu allan i’r cylch yna, roedd e off. Dy’n ni heb ei weld e’ ers y datganiad. Dyna’r diolch ry’n ni’n cael am ein gofal. Fe gofiwch, fe enwyd e’n Dewi nid am ei wyrthiau, na’i dduwioldeb, ond oherwydd iddo gyrraedd ar ddydd ein nawddsant – ychydig wedi’r lockdown.