Dw i ’di tyfu lan gyda soshal mîdia mewn gwirionedd: o’n i’n malu awyr ar MSN Messenger tua diwedd y mileniwm d’wetha cyn ifi symud – yn weddol hwyr mewn gwirionedd – at Facebook, a oedd bryd hynny jyst yn ffordd o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau ar ôl gadel ysgol. Jyst llunie dwl a jôcs gwael.