Cyn cyrraedd Covid a’r clo mawr, rwy mor falch i fi gael y cyfle i weld y ddrama Tylwyth gan Dafydd James. Athrylithgar yw’r unig air! Ond roedd un dyfyniad penodol wedi procio anesmwythder mawr ynof fi, pan fo’r prif gymeriad Aneurin yn gweiddi mewn gwylltineb am y Cymry: “mae popeth yn ff***n braint ac anrhydedd ar (raglen) Heno, mae’r Cymry yn fwy submissive na…”