Yn ddiweddar, mae John wedi bod yn edrych ar Helen.

Edrych arni go-iawn. Yn lle ei gweld hi, fel roedd o’n gwneud o’r blaen, ac mae hynny’n ei ddychryn. Cyn Covid, pryd oedd y tro dwythaf iddo’i gwylio hi’n eistedd yn yr ardd gyda phaned? Pryd oedd y tro dwythaf iddo wylio’i gwyneb wrth iddi ddarllen nofel, a gweld y stori’n cael ei adlewyrchu yn ei gwyneb – gwên fach, efallai, neu bryder yn creu crychau ar ei thalcen?