Mae’n siŵr bod Donald Trump yn gynddeiriog.

Ac yntau’n dibynnu cymaint ar faint y torfeydd sy’n dod i wrando arno’n brygowthan yn ei ralïau i roi rhyw deimlad o hygrededd a gwerth iddo fe’i hun, mae’n siŵr bod cael tyrfa mor fach yn ei rali ddiweddaraf yn dân ar ei groen. A dweud y lleiaf!

Yr ymffrost cyn y rali oedd bod miliwn o bobl wedi gwneud cais am docynnau i weld y dyn bach sy’n credu ei fod yn gawr, yn mynd drwy ei bethau yn Tulsa, Oklahoma.