Mae’n debyg mai un o ddibenion dysgu hanes ydi deall sut y daethon ni i fan hyn … neu, o leia’, i drïo deall.

Mae’r ‘fan hyn’ yn bwysig, gan fod pob cenhedlaeth wedi disgrifio’r daith drwy edrych yn ôl o le arbennig arni.

Dyna pam ei bod yn bwysig fod pob plentyn (ac oedolyn) sy’n byw yng ngwledydd Prydain yn dysgu am hanes ymerodraeth a chaethwasiaeth a’r berthynas rhwng yr hiliau.