Bydd yn rhaid i wleidyddion “symud môr a mynydd” a “gweithio’n galed iawn” er mwyn taro dêl Brexit cyn diwedd y flwyddyn, yn ôl un sylwebydd ar wleidyddiaeth Ewrop.

Mae Mared Gwyn yn ymgynghorydd cyfathrebu i asiantaeth BCW Brussels ym Mrwsel, ac mae wrthi’n treulio’r cyfnod clo yn ôl ym Mhen Llŷn.

Daw ei sylwadau yn ystod cyfnod tyngedfennol yn y broses Brexit, ac wrth i’r byd cyfan geisio ymdopi â’r argyfwng coronafeirws.