Mae angen tanio trafodaeth go-iawn yng Nghymru ynghylch safon ein sefydliadau cyhoeddus mwyaf.

Dyna farn Mike Hedges, Aelod Llafur o’r Senedd sydd wedi bod yn dadlau am flynyddoedd yn erbyn uno cyrff a chanoli pŵer.

Mae’r cyn-Arweinydd Cyngor yn ystyried Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ein cynghorau, a’n byrddau hiechyd yn gyrff sydd yn rhy fawr.