Mae ambell ffotograff yn cydio yng ngwar y foment ac yn croniclo cyfnod cyfan mewn un ddelwedd fythgofiadwy.

Ffotograff felly oedd un Kevin Carter, ym 1993, o blentyn bach newynog yn ei gwrcwd ar dir crin Sudan, gyda fwltur fel petai’n llechu gerllaw yn disgwyl ei gyfle, yn aros i’r plentyn farw.