Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi cael “dipyn o ram dam” gan ffermwyr yr ynys am bleidleisio yn erbyn cynnal safonau bwyd fydd yn cael ei fewnforio ar ôl Brexit.

“Dw i’n meddwl ei bod hi wedi ein bradychu ni braidd,” meddai Cadeirydd undeb amaeth NFU Môn wrth gylchgrawn Golwg.

Mae ffermwyr ledled gwledydd Prydain yn poeni fod gan y Bil Amaeth y potensial i’w gwneud yn bosib mewnforio bwyd rhad, o safon is na’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu yma ar hyn o bryd.

Yr ofn yw na fydd ffermwyr Cymru yn medru cystadlu gyda phris isel cyw iâr a bîff o safon isel fyddai yn dod yma o America, mewn cytundeb ôl-Brexit.

Mae dros filiwn o bobol wedi arwyddo deiseb yr NFU yn galw am warchod safonau bwyd.

Ym mis Mai roedd dau Aelod Seneddol Torïaidd wedi cynnig gwelliannau i’r Bil Amaeth, yn galw am sicrhau na fydd safonau bwyd sy’n cael ei fewnforio yn is na’r hyn ydyn nhw nawr pan mae’r cyfnod ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben.

Ond fe gafodd y gwelliannau eu gwrthod, ac un o’r rhai wnaeth bleidleisio yn eu herbyn oedd Virginia Crosbie, AS Torïaidd Môn.

Ac ers iddi fotio yn erbyn diogelu safonau bwyd, mae Virginia Crosbie wedi dod yn gocyn hitio ymysg ei hetholwyr ar yr ynys.

Fe wnaeth mwyafrif pobol Ynys Môn bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd adeg y refferendwm yn 2016.

Ac ym mis Rhagfyr 2019, fe wnaethon nhw ethol Ceidwadwr yn Aelod Seneddol.

Virginia Crosbie yw’r Tori cyntaf ers 1987 i gynrychioli pobol Ynys Môn yn San Steffan.

Brian Bown yw Cadeirydd undeb amaeth NFU Cymru ym Môn, ac mae yn siomedig bod ei Aelod Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn y gwelliannau i’r Bil Amaeth.

Roedd yn chwerthin mewn ymateb i gwestiwn gan Golwg yn holi os oedd o wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Efallai y gwnes i!” meddai cyn cydnabod yn nes ymlaen yn y sgwrs ei fod wedi pleidleisio dros Brexit – ond nad yw’n difaru.

“Na, byth difaru dim byd,” meddai Brian Bown.

“Mae yna bobol yn mynd i ennill a phobol sy’n mynd i golli,” o ganlyniad i’r bleidlais ar Ewrop.

“Maen rhyfedd i chi ffonio heddiw – dw i wedi cael llythyr o Dŷ’r Cyffredin ddoe gan Virginia Crosbie.

“Gafon ni, yn NFU Môn, gyfarfod (dros y We) efo hi pan ddaeth y Bil Amaeth i fyny yn San Steffan. Gafodd hi dipyn o ram dam gynnon ni,” meddai Brian Bown cyn mynd ati i adrodd cynnwys y llythyr swmpus dros y ffôn.

Ei grynodeb yw: “Mae hi’n trïo rhoi rhesymau dwy a dimau dros beidio fotio amdan yr amendment – yn fy marn i jest waffl ydi o. Mae hi’n berson sy’n licio siarad lot – mae hi’n clywed ond ddim yn gwrando.

“Mae’r undeb yma yn Sir Fôn – dydyn ni ddim eisio disgyn allan efo hi, ond dydyn ni ddim yn hapus iawn efo beth mae hi wedi ei wneud. Dw i’n meddwl ei bod hi wedi ein bradychu ni braidd.”

Mi bleidleisiodd Brian Bown tros Virginia Crosbie yn yr etholiad cyffredinol cyn y Nadolig, ac mae yn gobeithio y bydd hi’n gwneud tro pedol ac yn cefnogi’r alwad am warchod safonau bwyd.

Ar hyn o bryd mae’r Bil Amaeth yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi, cyn dychwelyd yn ôl i Dŷ’r Cyffredin ar gyfer pleidlais derfynol ar y gwelliant – ac mae Brian Bown am weld ei Aelod Seneddol yn newid ei meddwl.

“Mae ganddi gyfle eto does? Mae’r Bil Amaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi rŵan a gallan nhw roi amendments iddo fo cyn dod yn ôl i’r Tŷ Cyffredin am y bleidlais olaf.”

Mae’r ffaith fod y cogydd Jamie Oliver yn un o’r miliwn a mwy sydd wedi arwyddo deiseb yr NFU yn galw am warchod safonau bwyd gwledydd Prydain, wedi helpu’r achos yn ôl Brian Bown.

“Mae hynny wedi gwneud mwy o les na beth mae’r undebau wedi ei wneud ers wythnosau – un boi fel yna, efo dylanwad ar bobol.”

Brian Bown, Cadeirydd NFU Ynys Môn

Fe ofynnodd Golwg i Virginia Crosbie am gyfweliad, gan dynnu ei sylw at y ffaith bod rhai sylwadau negyddol amdani ar wefan Twitter ar ôl iddi bleidleisio yn erbyn y gwelliant i’r Bil Amaeth.

Cafodd wahoddiad hefyd i rannu ei barn am safonau bwyd – ond doedd hi ddim am wneud cyfweliad.

Mewn datganiad, fe gyfeiriodd Virginia Crosbie at y ffaith ei bod yn “dod o deulu ffermio” ac felly, meddai, yn “deall pwysigrwydd y diwydiant amaethyddol i economi’r Deyrnas Unedig”.

Roedd hefyd yn canmol ei hetholwyr yn y sector amaeth am safon uchel eu cynnyrch – “o’r ansawdd gorau oll drwy’r Deyrnas Unedig, os nad drwy’r byd i gyd. Mae amaethyddiaeth yn hanfodol bwysig i lwyddiant yr economi leol …

“Ers i mi gael fy ethol, rwyf wedi cwrdd ac ymgysylltu yn aml gyda’r Undeb Ffermwyr Cenedlaethol ac Undeb Ffermwyr Cymru, yn ogystal â’r Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Ynys Môn,” meddai.

Fe safodd yn yr etholiad ym Môn ar faniffesto’r Blaid Geidwadol sy’n rhoi’r addewid, meddai, “na fydd, yn ystod ein trafodaethau masnach, unrhyw gyfaddawd ar safonau uchel y Deyrnas Unedig, parthed diogelu’r amgylchedd, lles anifeiliaid, a safonau bwyd.

“Mae’r ddeddf berthnasol i adael Ewrop yn trosglwyddo’r holl ddarpariaethau presennol, sydd yn bodoli oddi mewn i’r Undeb Ewropeaidd, i mewn i lyfrau statudol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yr anghenion presennol ar fewnforio [sy’n cynnwys] gwaharddiadau ar ddefnyddio unrhyw hormon twf artiffisial mewn cynnyrch domestig, neu unrhyw gynnyrch sydd wedi ei fewnforio.

“Mae’r safonau hefyd yn gosod allan nad oes unrhyw eitem, gan gynnwys clorin, heblaw am ddŵr yfed, wedi ei gymeradwyo i ddadheintio carcasai dofednod (poultry).”

Ynys Môn yn troi’n las

Etholwyd Virginia Crosbie yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn ym mis Rhagfyr y llynedd, gyda chwta ddwy fil yn fwy o bleidleisiau na’r ymgeisydd Llafur ddaeth yn ail.

Ers mis Mawrth eleni mae hi’n aelod o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

“Mae hi wedi dod i mewn i Sir Fôn efo cefnogaeth gan y diwydiant amaeth,” meddai Brian Bown.

“Dw i wedi fotio i Plaid [Cymru] cyn heddiw hefyd ond dw i’n gweld o’n dipyn bach o wast fotio i’r Blaid yn Llundain, bod y fôt yn fwy pwysig yng Nghaerdydd yn fy meddwl i.”

Roedd Brian Bown wedi gobeithio y byddai’r Torïaid wedi cefnogi’r amaethwyr o ran y Bil Amaeth, meddai.

Yn enwedig felly am fod Virginia Crosbie ei hun “wedi dangos tipyn o ddiddordeb mewn amaeth ac eisio gwybod hyn a llall… roedd hi wedi bod yn holi’r NFU am y Bil Amaeth ac o’n i’n meddwl y byddai wedi fotio am yr amendment.

“Ac wedyn roedd pawb yn reit pissed off  ei bod hi wedi fotio’r ffordd wnaeth hi

“Mae hi’n trïo plesio pawb dw i’n meddwl, dyna ei drwg hi. Ac mae hi’n frwsh newydd a dydi hi ddim yn gwybod llawer am Sir Fôn – mae hi’n dod o’r tu allan tydi … o Essex neu rywle felly, Lloegr – dw i ddim yn siŵr iawn, ond mae ganddi ryw gefndir o Gymru meddai hi, roedd ei thaid yn löwr yn de Cymru.”

Llywodraeth San Steffan “eisio cadw bwyd yn rhad”

Mae Brian Bown yn ffermio defaid a gwartheg bîff a thyfu haidd ym Maenaddwyn, Llannerchymedd. Ac yn ddiweddar mae o wedi bod yn cael prisiau da am wartheg wedi eu pesgi, meddai.

Ar ddechrau’r cloi mawr fe gafodd tunelli o gig eidion ei fewnforio o Wlad Pwyl, yn ôl Brian Bown.

“Roedd yna ychydig bach o brinder ar y silffoedd ar ddechrau’r miri yma ac fe wnaeth pobol y trefi ddechrau prynu bob math dan haul. Wedyn fe wnaeth y cwmnïau mawr yma fewnforio o Wlad Pwyl am eu bod yn methu cael digon [o gig] o’r wlad yma – dyna maen nhw’n ddweud, dyna’r esgus.”

O ran y tueddiad diweddar i siopa yn fwy lleol, ydi Brian Bown o’r farn bydd hynny’n parhau?

“Mynd yn ôl i’r hen drefn wnaiff pobol maen siŵr – pris ydi o ar ddiwedd y dydd. A dyna ydi llawer i’w wneud efo’r Bil Amaeth yma, y safonau bwyd. Mae’r llywodraeth eisio cadw bwyd yn rhad, ei fewnforio fo o le bynnag mae o’n rhatach a chadw chwyddiant bwyd i lawr… y peth diwethaf maen nhw eisio ydi gweld bwyd yn mynd yn ddrud yn y siop.”

Ond beth am y pryderon am fewnforio cig eidion o dde America sy’n cynnwys hormonau, neu gywion ieir o America wedi eu golchi mewn clorin?

“Os yw’r cyhoedd yn cael sniff bod hormone treated beef  yn y siop dw i ddim yn eu gweld nhw’n ei werthu fo – fe fyddai gwerthiant i lawr. Dw i ddim yn gweld siopau yn ei werthu fo, dw i ddim yn ei weld o’n dŵad fy hun. Ella mewn catering a manufacturing, ond dim yn y siopau.”