Mae Margaret Ogunbanwo yn dweud ei bod yn bwriadu dangos trugaredd i bwy bynnag wnaeth baentio swastica ar ddrws ei garej yng Ngwynedd.

Yn wreiddiol o Nigeria, mae’r ddynes fusnes wedi treulio 13 mlynedd yn byw ym Mhenygroes gyda’i theulu, gan ddod yn hollol rugl ei Chymraeg.

Fore dydd Sadwrn diwethaf fe sylwodd bod symbol Natsïaidd wedi ei beintio ar ddrws ei garej, ac mi bostiodd lun ar y cyfryngau cymdeithasol, a galw’r heddlu.

Mae’r fandaliaeth hiliol wedi ennyn sylw’r Wasg a’r cyfryngau ac mae’r heddlu wedi lansio apêl i ddal yr unigolyn sy’n gyfrifol. Wrth i Golwg fynd i’r wasg, roedd yr heddlu newydd gadarnhau fod dyn 35 oed wedi’i arestio a dweud bod y digwyddiad yn cael ei drin fel trosedd casineb, a bod eu hymholiadau yn parhau.

Yn y cyfamser, mae’r gymuned leol wedi dod ynghyd i gael gwared ar y swastica, ac mae llwythi o bobol wedi bod yn cyfleu eu cefnogaeth – a rhai yn gwneud hynny trwy archebu bwyd gan gwmni Margaret Ogunbanwo, Maggie’s Exotic Foods.

Trigolion Penygroes yn cael gwared ar y swastica.

Mae’n dweud bod yr holl sylw wedi bod yn “dipyn o beth” ac mae’n jocian ei bod wedi derbyn “gormod o gefnogaeth”.

Wrth drafod apêl yr heddlu, mae’n dweud ei bod am fod yn “oddefgar” a dangos trugaredd i beintiwr y swastica.

“Rydym wedi bod yn meddwl am hyn, ac wedi siarad am hyn rhyw ychydig,” meddai.

“Os byddan nhw’n gofyn os dw i am ei gyhuddo’n swyddogol, wel, nid dyna fy ffordd i. Roeddwn yn chwerthin ynghynt. Fel cosb, dylai gael ei orfodi i ddod i’r eglwys.

“Rydym yn rhedeg eglwys yma. Gorfodwch iddo ddod yma bob dydd Sul am flwyddyn. Dw i’n credu y byddai hynny’n fwy poenus iddo. Ac efallai y byddai’n newid ei feddwl!”

Mae’n dweud iddi deimlo “sioc” pan welodd y swastica, a’i bod wedi penderfynu, yn wreiddiol, gadw’r symbol “anghyffyrddus” yno – dyw hi ddim am i bobol deimlo’n gyffyrddus â hiliaeth, meddai.

Er hynny, penderfynodd y gymuned beintio dros y swastica ddechrau’r wythnos, a bellach mae cynlluniau ar droed i roi murlun ar ddrws y garej.

Hiliaeth ym Mhenygroes

Mae Margaret Ogunbanwo yn dweud iddi dderbyn toreth o “gardiau, blodau, a chariad”, a dyw hi ddim yn pryderu “o gwbl” am ddiffyg cefnogaeth.

“Dw i’n credu bydd wastad gennym ni gefnogaeth,” meddai.

“Dw i’n credu eu bod yn ein hystyried yn rhan o’r pentref. Mae fy nhad wedi ei gladdu yn y fynwent leol. Mae hynna’n fy ngwneud i’n rhan o’r tir.”

Er hynny, mae ganddi deimladau cymysg am y sefyllfa.

Mae’n teimlo y bydd y don o gefnogaeth ati hi, a phobol dduon eraill, yn “distewi cryn dipyn” yn y pendraw; ac mae hi’n rhannu ei theimladau am hiliaeth yng nghefn gwlad Cymru.

“Dyw bywyd ddim yn symud mor gyflym ym Mhenygroes ag y mae yn y ddinas,” meddai. “A dw i’n dwlu ar hynna. Ond mae’n golygu bod y ffordd o feddwl, efallai, ddim mor flaengar.

“Weithiau dw i’n credu bod yr hiliaeth a’r rhagfarn yn deillio o’r ffaith nad yw pobol yn [gweld pobol o hiliau eraill], a hefyd o’r diffyg addysg. A dw i ddim yn golygu addysg mewn ysgolion.

“Dw i’n golygu [hunan] addysg ar y mater. Os dydych chi ddim yn cwrdd â [gwahanol fathau] o bobol, a does dim angen i chi ddod ar eu traws [mae hiliaeth yn gallu digwydd].

“Efallai bod y sustem addysg ar fai. Efallai dylai bod yr ysgol yn ei ddysgu.”

Bu adroddiadau bod ei theulu wedi profi achosion eraill o hiliaeth ym Mhenygroes, gydag wyau wedi eu taflu at ei thŷ yn y gorffennol.

Protest Caernarfon yn “syfrdanu”

Tros y Sul cafodd protest Black Lives Matter ei gynnal ar Y Maes yng Nghaernarfon.

Roedd rhyw 200 o bobol yn gwrthdystio yno mewn dillad du, ac roedd y protestwyr yn cael eu hannog i gadw pellter rhwng ei gilydd.

Mae cyfres o brotestiadau gwrth-hiliaeth wedi cael eu cynnal ledled y byd, yn ymateb i’r gwrthdystio tanllyd sy’n mynd rhagddo yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd hynny ei danio wedi i ddyn croenddu o’r enw George Floyd gael ei ladd gan blismyn gwyn.

Bu Margaret Ogunbanwo yn siarad ym mhrotest Caernarfon, ac mae’n dweud bod ei theulu wedi synnu o weld cymaint yn cymryd rhan.

“Cawsom ein syfrdanu gan faint o bobol oedd yno,” meddai.

“Roedd yn wych. Ac roedd yr atmosffer yn rhagorol. Roedd yr holl beth yn heddychlon iawn – oedd wir. Ac roedd yr holl beth yn chwaethus iawn.

“Roeddwn i heb fynd yno gyda’r bwriad o siarad, ond wnaethon nhw ofyn fy mod yn siarad. A ges i lawer o gefnogaeth.”