‘Does ’na ddim un rheol i bobl bwysig ac un arall i’r plebs’, medde Dominic Cummings o ardd Downing Street – lleoliad areithiau gan wladweinwyr, fel arfer, ar ôl cadw pawb yn aros am bron hanner awr. ‘Dw i ddim yn meddwl bo’ fi uwchben y rheolau’, medde fe, yn ystod awr syrffedus yn pwysleisio iddo fe dorri’r rheolau yn rhannol gan fod ganddo swydd bwysig.