Yn dilyn canmoliaeth helaeth i f’adolygiad yr wythnos ddiwethaf (Caru Siopa) lle bûm yn rhannu fy nealltwriaeth eang o fyd ffasiwn, fe benderfynais fynd amdani unwaith eto – a throi fy sylw at raglen arall am ffrogiau a chlustdlysau.

Cyfle arall, felly, i mi drafod bias-binding, y backstich, bumblebunching ac interfacing.