Wel, dyma ni eto. Pa ddiwrnod yw hi? Dim syniad. Nid yw Homes under the Hammer ymlaen, felly mae’n bosib ei bod hi yn benwythnos. Cyn i chi ofyn, na, nid yw pethe’n dda pen hyn. Fi wedi colli bra. Mae’n bosib y bydd rhai ohonoch yn meddwl mai problem fechan yw hon o gofio’r caca presennol, ond realiti’r sefyllfa yw bod hyn yn argyfwng personol o’r radd eithaf oherwydd dim ond dau (fra) sydd ’da fi. Roedd gynnai dri ddechre’r flwyddyn ond aeth un ar goll yn Llandudno, a fi’n casá