Mae’n nos Sul arna i’n ysgrifennu’r pwt hwn.

A dw i newydd fod yn gwylio Boris Johnson yn trio amddiffyn ei brif ymgynghorydd, Dominic Cummings, yn narllediad dyddiol Downing Street ar Covid-19.

A dw i’n gwbl, gwbl gegrwth.

Mae’n edrych yn debyg iawn bod Mr Cummings, gyda’i wraig a’u mab, wedi gyrru bron 300 o filltiroedd o’i gartref yn Llundain i dŷ ei rieni yn Durham pan oedd ganddo fe a’i wraig symptomau Covid-19.