Ddechrau’r wythnos cyhoeddodd yr Urdd ei Neges Heddwch. Yn y bôn, dyma oedd hi: peidiwch ag anghofio’r gwersi ry’n ni wedi’u dysgu yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Yng ngeiriau’r Prif Weithredwr, Siân Lewis: “Mewn sawl ffordd, dangosodd yr argyfwng y gorau ynom ni, ein hymrwymiad i’n cymunedau, ein gwerthoedd cyffredin a’n dynoliaeth. Ac mae ein pobl ifanc yn benderfynol na fydd arweinwyr gwleidyddol yn gollwng yr ymrwymiadau hynny wrth i’r firws gilio.”

A phwy all anghytuno?