Mae cyn-filwr o Abertawe wedi treulio bron i dair blynedd yn cerdded o gwmpas gwledydd Prydain gan fyw mewn pabell, ac mae’n dweud bod y profiad wedi ei newid er gwell wedi iddo ddioddef cyfnodau o iselder.

Yn 40 oed, mae Chris Lewis wedi codi dros £142,000 i elusen sy’n cynorthwyo milwyr, morwyr, awyrenwyr, a’u teuluoedd, trwy gerdded miloedd o filltiroedd ar hyd yr arfordir.