Fe dreulies i ddechre’r wthnos, fel llawer ar Twitter, yn chwerthin ar ben slogan newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sef ‘STAY ALERT – CONTROL THE VIRUS – SAVE LIVES’.  ‘Ho ho! Am slogan ddwl!’ medde ni. ‘Be dw i fod i neud? Pipo rownd bob cornel i weld a yw’r feirws ar ei ffordd? Ymdrin