Ymhlith y cymeriadau a’r ffilmiau dogfen byrion y mae Siôn Griffiths wedi eu gwneud yn ddiweddar i sianel ddigidol S4C, Hansh, mae bardd sy’n byw gydag ADHD, artistiaid sydd wedi meddiannu capel hanesyddol, a rapwraig sy’n gwisgo fel “LA gangster”.

Golygydd lluniau a dyn camera ar raglen Heno yw Siôn Griffiths wrth ei waith bob dydd. Ond fe fydd yn gweithio ar ei waith creadigol ei hun, gyda chefnogaeth cwmni Tinopolis, pan fydd cyfle.