Yn anffodus, roedd yna dipyn o ragrith o amgylch dathliadau Buddugoliaeth yn Ewrop. Nid gan y bobol ac, yn sicr, nid gan y rhai oedd wedi byw drwy’r cyfnod. Ond gan yr arweinwyr sy’n ein llywio ni trwy argyfwng y feirws.

Y genhedlaeth a welodd yr Ail Ryfel Byd ac sy’n cael ei chlodfori am ddangos dewrder a dycnwch ydi’r union genhedlaeth sydd wedi ei hesgeuluso, yn fwriadol neu fel arall, yn ystod y pandemig. Nhw a’u gofalwyr sydd wedi eu gadael yn ddiamddiffyn, a gwaeth.