Yn wreiddiol o Seland Newydd, mae Nadine Porter bellach yn byw yn Sir Benfro gyda’i phartner a 40 o eifr.

Am flynyddoedd bu yn hybu gwerthiant cig oen ei mamwlad, ac yn ddiweddar fe gafodd ei phenodi yn un o Gyfarwyddwyr Hybu Cig Cymru.

Mae Nadine Porter yn arbenigo ar gyfathrebu ac wedi cwblhau Ysgoloriaeth Amaethyddol Nuffield ar sefyllfa cig coch yn fyd-eang.

Ond er mai cig coch yw ei maes, mae hi wedi troi at gaws ers dod i fyw i Gymru.