Roedd Prif Weinidog Cymru yn dal i fynnu ar ddechrau’r wythnos bod y Deyrnas Unedig yn, wel, unedig, yn wyneb yr argyfwng Covid-19.

Dros y penwythnos daeth i’r amlwg y byddai cyfyngiadau yn cael eu llacio yn Lloegr, ac y byddai pobol yn cael eu cynghori i “aros yn wyliadwrus” yn hytrach nag “aros adre”.

Roedd Cymru, ynghyd â’r llywodraethau datganoledig eraill, eisoes wedi dweud y byddan nhw’n cadw eu rheolau hwythau yn weddol llym.