Fel pawb arall, mae’n debyg, gwyliais Boris Johnson yn ein hannerch nos Sul, yn trafod hynt a helynt y pla.

Roedd yr holl beth yn ddigon urddasol. Wedi’r cyfan, mae hanes yr adeilad yn ‘gefndir’ i unrhyw ddarllediad o Downing Street. Bu’n gartref i fwy na hanner cant o brif weinidogion dros nifer o ganrifoedd. Gallwch ddychmygu Winston Churchill yn yr ystafell lle bu Boris ar nos Sul, yn trafod sut i atal y Natsïaid. Ac mae Boris, wrth gwrs, yn meddwl y byd o Winston Churchill.